Bu Fairbridge Cymru yn gweithio gyda phobl ifanc rhwng 13 a 25 oed ers mwy na 21ain mlynedd, a chafodd ei gofrestru’n ffurfiol fel elusen Gymreig annibynnol gyda’r Comisiwn Elusennau yn 2004. Mae’r bobl ifanc y byddwn yn gweithio gyda nhw yn rhai o’r bobl ifanc sy’n wynebu’r sialensau mwyaf, sydd wedi ymddieithrio fwyaf ac sydd fwyaf anodd eu cyrraedd yng Nghymru. Maent i gyd un ai’n wynebu perygl neu yn wir mewn perygl o roi’r gorau i addysg neu waith neu hyfforddiant. Yn aml iawn mae gan y bobl ifanc hyn nifer o anghenion sy’n gofyn am gefnogaeth, gan amrywio o hunan-barch i ddigartrefedd, camddefnyddio sylweddau i hunan-niwed; mae’n bosibl eu bod wedi eu hamddifadu o gefnogaeth teulu neu o ddiogelwch y cartref.
Mae Fairbridge Cymru yn helpu’r bobol ifanc hyn i ddatblygu’r sgiliau a’r hyder angenrheidiol i newid eu bywydau er gwell. Trwy gyfrwng ystod o weithgareddau llawn her sydd wedi eu strwythuro’n arbennig, ochr yn ochr â chefnogaeth unigol, mae’r bobl ifanc hyn yn dewis dychwelyd i ganolfan Fairbridge i fynd i’r afael â’u anghenion a newid eu bywyd gam wrth gam.
Mae Fairbridge Cymru yn gweithio gyda llywodraeth leol a’r llywodraeth ganol, ac asiantaethau statudol a gwirfoddol eraill i sicrhau bod y gofal a’r gefnogaeth orau posibl ar gael i gwrdd â’u anghenion. Ystyrir Fairbridge Cymru fel rhanddeiliad allweddol yng Nghymru i gefnogi a darparu ar gyfer pobl ifanc sydd wedi ymddieithrio. Bob blwyddyn, mae hyd at 500 o bobl ifanc yn cysylltu’n wirfoddol â Fairbridge Cymru. I lawer ohonynt, ni yw’r cam cyntaf tuag at ddyfodol gwell.
Colin Jackson CBE will officially be unveiled as Patron of Fairbridge Cymru o... more
Graham believed wholeheartedly that by giving young people the skills and opp... more
From October 2007 to March 2008, five artists specially recruited by Artes Mu... more
Tim Powell (Cadeirydd Gweithredol), Antony Beevor, Walter Dickie, Elena Griffin, Nigel Haynes, Anthony McEwen, Andrew Walker.
Mae Fairbridge yn elusen cenedlaethol sydd yn cefnogi pobl ifanc rhwng 13 a 25 mewn 15 o ardaloedd mwyaf difreintiedig Prydain i fagu hyder, cymhelliad a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i newid eu bywydau.
Caerdydd & Yn y Dyffrynnoedd, Abertawe
Team pages coming soon.
04 Sep 08 | more
Swyddfa Gofrestredig
42 Y Rhodfa
Y Rhath
Caerdydd
CF24 3AD
T: 029 2030 3910
F: 029 2030 3908
E: de_cymru@fairbridge.org.uk
Elusen Gofrestredig rhif: 1104990
Rhif Cofrestredig y Cwmni: 5105101